ENERGISE CLUB
Eisiau gweld rhai o'ch hoff artistiaid neu ddigwyddiadau mewn steil?
Yr Energise Club yw ein gofod digwyddiadau newydd sbon sydd wedi'i leoli ar Lefel 1 yr arena, gyda golygfeydd anhygoel a bar preifat!
Gall y clwb gynnal 16 o westeion (hyd at 25 o westeion i’w llogi’n breifat) gyda digon o le i chi gymysgu a dawnsio neu eistedd a gwylio comedi.
Rydym wedi croesawu pawb o Dolly Parton i Babymetal a Lee Evans i Sarah Millican felly rydym yn siŵr bod y digwyddiad perffaith i chi. Gyda dros 100 o ddigwyddiadau'r flwyddyn (ar gyfartaledd), byddwch yn cael eich sbwylio gan ddewis yn Utilita Arena Cardiff.
Cysylltwch â’n tîm heddiw ar hospitality.cardiff@livenation.co.uk i gael rhagor o wybodaeth am logi preifat neu dewiswch un o’n sioeau isod i gael eich blas cyntaf o’r Energise Club.